Datganiad i'r wasg ar ran:
Live Software Solutions Ltd
The Old Forge
Hatfield Park
HATFIELD
AL5 9NB
Ffôn: 01707 267933; Gwefan:
www.lss.co.uk
English version
30fed Mawrth 2009
Arbenigedd technegol Live Software Solutions yn helpu Gocompare.com
Mae'r datblygwr meddalwedd 'Live Software Solutions (LSS)', un o
bartneriaid 'Microsoft Gold Certified', wedi bod yn helpu datblygwyr ar
wefan cymharu yswiriant blaenllaw Gocompare.com. Maent wedi ei helpu i
wneud y gorau o'i buddsoddiad yn y sustem 'Microsoft Visual Studio 2008
Team Foundation Server (TFS)' - sustem meddalwedd sy'n galluogi
rheolaeth ac adrodd nôl effeithiol ar draws prosiectau lluosog.
Esboniodd James Boother, rheolwr gyfarwyddwr LSS: "Daeth TFS i
fodolaeth wrth i ddatblygwyr Microsoft ddarganfod nad oedd cyfnodau'r
cylch o ddatblygu meddalwedd wedi eu hintegreiddio'n dda - pethau megis
casglu gofynion, cynllunio pensaernïol, a chynllunio, adeiladu a phrofi
meddalwedd. Roedd amrywiadau eithafol o safbwynt methodoleg, terminoleg,
cyfrifiadau ac adrodd nôl.
"Felly, cynhyrchwyd y sustem 'Microsoft Visual Studio Team'. Mae'r
sustem cwsmer/gweinyddwr hon yn atgyfnerthu pethau megis 'source code
control', rheolaeth prosiect, amgylcheddau adeiladu a phrofi, tracio
eitemau gwaith, a thracio bygiau.
"Rydym wedi bod yn defnyddio TFS yn LSS ers tair blynedd, ac mae wedi
profi'n amhrisiadwy", dywedodd. "Dros y cyfnod hwn, rydym wedi datblygu
tipyn o arbenigedd gyda'r feddalwedd. O ganlyniad mae ein cyngor ac
arweiniad tu hwnt i'r hyn y gellir ei gael mewn unrhyw gyfarwyddiadur."
Dywedodd Susie Bradshaw, pensaer sustemau gyda Gocompare.com: "Mae TFS
yn fuddsoddiad sylweddol i ni. O ganlyniad roedd yn bwysig iawn fod ein
datblygwyr wedi eu diweddaru am allu a medrau'r sustem.
"Treuliodd James Boother a'r cyfarwyddwr technegol Mike Goatly o LSS
ychydig o ddiwrnodau yn ein swyddfeydd yng Nghasnewydd Gwent er mwyn
darganfod mwy am fanylder TFS.
"Roedd eu gwybodaeth ardderchog a'u profiad ymarferol o TFS yn amlwg yn
y sesiynau hyfforddiant. Roddent yn medru cynnig cymorth na ellir ei
gael ond drwy brofiad ymarferol uniongyrchol o'r sustem.
"Yn Gocompare.com, rydym wedi creu gwasanaeth cymhariaeth lle mae ond
angen i'r cwsmer rhoi eu manylion i mewn unwaith er mwyn cymharu dros
90 o gwmnïoedd cyn dewis lefel yr yswiriant," dywedodd.
"Gall cwsmeriaid ddod i benderfyniad ar sail yr holl wybodaeth hyn, ac
nid y pris yn unig.
"Mae hefyd gennym wasanaeth 'five star rating' sy'n dangos pa mor agos
mae'r polisi'n cymharu gyda gofynion y cwsmer. Y mwyaf o sêr, y gorau
yw'r gymhariaeth.
"O ganlyniad, ac o gofio cymhlethdod y sustem, mae'n bwysig ein bod yn
cynnig rheolaeth ac adrodd nôl effeithiol ar draws prosiectau lluosog -
dyma'r hyn y mae TFS yn ei gynnig i ni. Diolch i wybodaeth a chyngor
ymarferol LSS, rydym yn cyflawni hyn er lles ein cwsmeriaid," dywedodd.
Diwedd
Os ydych am fwy o wybodaeth am TFS neu LSS, cysylltwch â:
Tom Boother, LSS, 01707 267933/ 07967 633102;
tboother@lss.co.uk
Bob Little, Bob Little Press & PR, 01727 860405;
bob.little@boblittlepr.com